Y Senedd

Y Pwyllgor Busnes

Medi 2020

 

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol

 

Diben

1.        Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

2.        Yn unol â Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Deddf 2020), mae'r adroddiad yn argymell:

·         diwygiadau i Reol Sefydlog 20.20 mewn perthynas â Phwyllgor y Llywydd a goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol,

·         diwygiadau i Reol Sefydlog 20.28 mewn perthynas â'r wybodaeth a gyflwynir i gefnogi cynnig cyllideb blynyddol; a

·         Rheol Sefydlog 20.34A newydd mewn perthynas â chynigion cyllideb atodol. 

3.        Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A.

Cefndir

4.        Pasiwyd Deddf 2020 gan y Senedd ar 27 Tachwedd 2019, a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr 2020. Daw’r darpariaethau sy’n berthnasol i’r adroddiad hwn i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.   

5.        Mae Deddf 2020 yn diwygio Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (Deddf 2000) i ddarparu ar gyfer sefydlu Pwyllgor y Llywydd er mwyn i'r Comisiwn Etholiadol fod yn atebol i'r Senedd o ran etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig, ac i Bwyllgor y Llywydd gymeradwyo cynlluniau gwariant y Comisiwn Etholiadol.

6.        Ar 15 Gorffennaf, cytunodd y Senedd ar ddiwygiadau i’r Rheolau Sefydlog yr oedd eu hangen er mwyn sefydlu Pwyllgor y Llywydd. Mae angen newidiadau pellach i’r Rheolau Sefydlog i ddiweddaru gweithdrefnau ariannol y Senedd, yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf 2000. Mae'r newidiadau arfaethedig a nodir isod wedi'u cynllunio er mwyn sicrhau bod y Rheolau Sefydlog yn gyson â darpariaethau perthnasol y Ddeddf ac fe'u drafftiwyd mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, i sicrhau eu bod yn addas at y diben.

7.        Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd osod y gorchymyn i gychwyn darpariaethau perthnasol Deddf 2020. Mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at osod y gorchymyn i roi effaith i'r darpariaethau er mwyn i'r Senedd gytuno ar gyllideb 2021-2022 y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â materion datganoledig fel rhan o gylch cyllideb tymor yr hydref 2020.

Swyddogaethau sy'n ymwneud â goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol

8.        Mae’r camau a ganlyn yn ofynnol yn unol â Deddf 2000 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2020:

-     erbyn 1 Hydref bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif i Bwyllgor y Llywydd o'r incwm a'r gwariant y mae'n disgwyl ei gael/ei wario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas â'i waith ar etholiadau Cymru;

-     rhaid i Bwyllgor y Llywydd archwilio'r amcangyfrif, o ran darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a gwneud unrhyw newidiadau sy’n briodol yn ei farn, gan ystyried adroddiad diweddaraf y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol a barn Gweinidogion Cymru;

-     rhaid i Bwyllgor y Llywydd osod yr amcangyfrif gerbron y Senedd. Yna bydd y Senedd yn cymeradwyo'r amcangyfrif fel rhan o gynnig y gyllideb flynyddol.

9.        Mae Deddf 2000 yn caniatáu i'r Comisiwn Etholiadol adolygu amcangyfrif yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi. Os bydd yn gwneud hyn, bydd angen i Bwyllgor y Llywydd graffu ar yr amcangyfrif diwygiedig gan ddilyn proses sy’n debyg i’r hyn a nodir ym mharagraff 8 uchod. Yna byddai'r Senedd yn ystyried yr amcangyfrifon cymeradwy fel rhan o’r cynnig cyllideb atodol.

10.     Mae’n ofynnol i Bwyllgor y Llywydd gymryd y camau a ganlyn yn unol â Deddf 2000 hefyd:

-     rhaid iddo archwilio cynllun gwaith pum mlynedd y Comisiwn Etholiadol o bryd i'w gilydd, sy'n rhestru ei nodau a’i amcanion ynghyd â’r adnoddau sydd eu hangen i arfer ei swyddogaethau o ran etholiadau datganoledig, a hynny o safbwynt darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, a rhaid iddo wneud unrhyw newidiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor, gan ystyried adroddiad diweddaraf y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol a barn Gweinidogion Cymru;

-     ar ôl craffu ar y cynllun, rhaid iddo ei osod gerbron y Senedd naill ai gyda diwygiadau neu heb ddiwygiadau;

-     caiff y Pwyllgor geisio archwiliad pellach gan Swyddfa Archwilio Cymru o unrhyw gyfrifon a archwiliwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol;

-     rhaid iddo osod adroddiad blynyddol o’i waith gerbron y Senedd.

11.     Mae Deddf 2000 yn darparu ar gyfer cyflwyno cynlluniau pum mlynedd i Bwyllgor y Llywydd:

-     pan fydd y Comisiwn Etholiadol yn cyflwyno'r amcangyfrif cyllidebol cyntaf;

-     pan fo’r amcangyfrif yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol gyntaf i ddechrau ar ôl y diwrnod y mae’r Senedd yn cyfarfod yn dilyn etholiad cyffredinol arferol y Senedd, neu

-     pan fo Pwyllgor y Llywydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun gyda'i amcangyfrif.

12.     Ymdrinnir â’r swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn ymwneud â chylch gwaith Pwyllgor y Llywydd, yn Rheol Sefydlog 18B.2, a gytunwyd gan y Senedd ar 15 Gorffennaf 2020, sy'n cyfeirio at y darpariaethau cyfreithiol perthnasol. Nodir y newidiadau pellach i'r Rheolau Sefydlog sydd eu hangen i gysoni gweithdrefnau ariannol y Senedd isod.

Cynigion ar gyfer newid Rheolau Sefydlog

Amserlen y gyllideb

13.     Yn unol â’r Ddeddf, mae’n rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif i Bwyllgor y Llywydd o'r incwm a'r gwariant a ddisgwylir ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas â'i waith ar etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru erbyn 1 Hydref bob blwyddyn.

14.     Rhaid nodi'r amserlen ddilynol ar gyfer cyflwyno adroddiad Pwyllgor y Llywydd ar ei amcangyfrifon ariannol yn y Rheolau Sefydlog hefyd, er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r amserlen ar gyfer ystyried y cynnig cyllideb blynyddol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau eglurder a thryloywder y broses. Nodir darpariaethau cyfatebol yn Rheol Sefydlog 20.22 ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ac yn Rheol Sefydlog 20.24 ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

15.     Mae’r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol /Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyno eu hamcangyfrifon erbyn 1 Tachwedd bob blwyddyn. Yna mae Rheol Sefydlog 20.22 a Rheol Sefydlog 20.24 yn nodi, mewn perthynas ag amcangyfrifon blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol/Swyddfa Archwilio Cymru a’r Ombwdsmon, fod yn rhaid i'r pwyllgor cyfrifol ystyried yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Senedd heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol/Swyddfa Archwilio Cymru a’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

16.     Felly, defnyddiwyd Rheolau Sefydlog 20.22 a 20.24 fel sail ar gyfer y Rheol Sefydlog cyfatebol arfaethedig sy'n ymwneud ag amcangyfrifon blynyddol y Comisiwn Etholiadol, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor y Llywydd ymgynghori â Gweinidogion Cymru a rhoi sylw i unrhyw adroddiadau a wneir gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol, cyn iddo ystyried amcangyfrifon blynyddol y Comisiwn Etholiadol a’u gosod (yn unol â Deddf 2000).

17.     Yn ogystal, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn nodi os yw Pwyllgor y Llywydd yn cynnig unrhyw addasiadau i amcangyfrif blynyddol y Comisiwn Etholiadol, rhaid iddo hefyd ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol. Er nad yw hwn yn ofyniad cyfreithiol, mae'n gyson â'r gweithdrefnau cyfatebol sy'n ymwneud â'r Archwilydd Cyffredinol/Swyddfa Archwilio Cymru a’r Ombwdsmon ac mae’n sicrhau bod y Comisiwn Etholiadol yn ymwybodol o unrhyw newidiadau arfaethedig i’w gyllideb ac yn cael cyfle i wneud sylwadau ar effaith y newidiadau arfaethedig hynny.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

18.     Mewn llythyr at y Llywydd (a rannwyd â'r Pwyllgor Busnes ar 8 Mehefin) cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn gweinyddu'r taliadau i'r Comisiwn Etholiadol dros dro, fel bod modd dwyn darpariaethau perthnasol Deddf 2020 i rym yn gyflym. Dywedodd y Prif Weinidog hefyd mai bwriad Llywodraeth Cymru yw “… parhau i ystyried opsiwn arall a fyddai'n golygu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru er mwyn ychwanegu'r Comisiwn Etholiadol at y rhestr o gyrff taledig yn adran 129(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru fel bod arian o Gronfa Gyfunol Cymru, unwaith y caiff ei gymeradwyo, yn gallu cael ei dalu'n uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol.”

19.     Er bod y Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol, a fydd yn atebol i'r Senedd am ei weithredoedd mewn perthynas ag etholiadau datganoledig, ni fydd y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru o dan y trefniant dros dro. Fodd bynnag, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd templed y Cynnig Cyllideb Blynyddol yn cael ei ddiwygio fel bod gan y Comisiwn Etholiadol gwmpas gwaith ar wahân ond y bydd yn ymddangos o dan 'Gweinidogion Cymru' (nid o dan 'Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol'). Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn cael ei baratoi i sicrhau y diogelir annibyniaeth wleidyddol y Comisiwn Etholiadol tra bod Llywodraeth Cymru yn gweinyddu'r taliadau.

20.     Felly, cynigir y dylid diwygio Rheol Sefydlog 20.26 i'w gwneud yn ofynnol bod amcangyfrif blynyddol y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gynnwys yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol. O dan y trefniant dros dro, bydd yr amcangyfrif blynyddol yn ymddangos o dan ‘Gweinidogion Cymru’, yn hytrach nag o dan 'Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol'. Yna, os a phryd y cyflwynir deddfwriaeth i ganiatáu i'r Comisiwn Etholiadol gael ei dalu'n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru, ni fyddai angen newid y Rheol Sefydlog arfaethedig; byddai amcangyfrif blynyddol y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol fel Corff a Ariennir yn Uniongyrchol.

Cynigion Cyllideb Atodol

21.     Pan fydd Pwyllgor y Llywydd yn ystyried cynnig cyllideb atodol sy'n cynnig amrywiad i gyllideb y Comisiwn Etholiadol, rhaid nodi’r amserlen ar gyfer gwneud hynny hefyd, er mwyn sicrhau bod amserlen Pwyllgor y Llywydd yn cyd-fynd â'r amserlen ar gyfer ystyried y cynnig cyllideb atodol, ac i sicrhau eglurder a thryloywder y broses.

22.     Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn cyd-fynd â'r rhai ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol/Swyddfa Archwilio Cymru (Rheol Sefydlog 20.35) a’r Ombwdsmon (Rheol Sefydlog 20.36).

23.     Os bydd y Comisiwn Etholiadol yn gofyn am amrywiad i'w gyllideb, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn darparu bod yn rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif diwygiedig i Bwyllgor y Llywydd yn nodi pam y mae angen yr amrywiad i'w gyllideb a bod yn rhaid i Bwyllgor y Llywydd osod adroddiad gerbron y Senedd ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos i gyflwyno'r cynnig cyllideb atodol. Yna, bydd y cynnig cyllideb atodol yn adlewyrchu’r amcangyfrif diwygiedig.

24.     Yn unol â Deddf 2000, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor y Llywydd ymgynghori â Gweinidogion Cymru a rhoi sylw i unrhyw adroddiadau a wneir iddo gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac egluro unrhyw addasiadau i'r cynnig cyllideb atodol.

25.     Yn yr un modd ag amcangyfrif blynyddol y Comisiwn Etholiadol, er nad yw'n ofyniad cyfreithiol, os bydd Pwyllgor y Llywydd yn cynnig unrhyw addasiadau i'r amrywiad arfaethedig yng nghyllideb y Comisiwn Etholiadol, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, gan roi sylw i unrhyw sylwadau a wneir.

Defnyddio Gormod o Adnoddau

26.     Os bydd cyfrifon archwiliedig Comisiwn y Senedd, y Swyddfa Archwilio neu'r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio, mae Rheolau Sefydlog 20.38 a 20.39 yn ei gwneud yn ofynnol ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer y gormodeddau a gofnodwyd os bydd Comisiwn y Senedd, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny.

27.     Fel y nodir uchod, o dan y trefniant dros dro ni fydd y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. Yn lle hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel tâl-feistr i dynnu arian o'r Gronfa ar ran y Comisiwn Etholiadol. Gan fod y taliadau’n cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru, bydd Gweinidogion Cymru yn atebol am unrhyw wariant gormodol yn unol â Rheol Sefydlog 20.37A. Fodd bynnag, bydd y Comisiwn Etholiadol yn dal i fod yn atebol i'r Senedd am unrhyw wariant gormodol. Felly, nid oes angen gwneud darpariaeth gyfatebol yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer y Comisiwn Etholiadol ar hyn o bryd. Felly, ni chynigir unrhyw newid i’r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â’r Comisiwn Etholiadol yn defnyddio gormod o adnoddau.

Cam i’w gymryd

28.     Gwahoddir y Senedd i gytuno ar y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog a gynigir yn Atodiad B.

 


Atodiad A

GORCHYMYN SEFYDLOG 20 - Gweithdrefnau Cyllid

 

Y Comisiwn Etholiadol

Pennawd Newydd

20.20A  Rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o'i incwm a'i wariant y gellir ei briodoli i arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru, fel sy'n ofynnol o dan baragraff 16A o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, i Bwyllgor y Llywydd o dan Reol Sefydlog 18B.2 cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ond erbyn 1 Hydref fan bellaf.

Yn unol â Deddf 2000 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf 2020), rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif i Bwyllgor y Llywydd o'r incwm a'r gwariant y mae'n disgwyl ei gael/ei wario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas â'i waith ar etholiadau Cymru erbyn 1 Hydref bob blwyddyn.

 

20.20B Rhaid i Bwyllgor y Llywydd:

i)     ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru ac ystyried unrhyw gyngor a roddwyd iddo ganddynt, ac;

ii)    ar ôl rhoi sylw i unrhyw adroddiadau a wnaed iddo gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac unrhyw argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau;

 ystyried a gosod gerbron y Senedd, heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, adroddiad yn cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor, ar ôl iddo ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.                

 

Rhaid nodi'r amserlen y mae’n rhaid i Bwyllgor y Llywydd gyflwyno adroddiad a gosod amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol yn unol â hi yn y Rheolau Sefydlog hefyd, er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r amserlen ar gyfer ystyried y cynnig cyllideb blynyddol ac i sicrhau eglurder a thryloywder y broses. Mae hyn yn cyfateb i'r ddarpariaeth a nodir yn Rheol Sefydlog 20.24 ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Rheol Sefydlog 20.22 ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol/Swyddfa Archwilio Cymru, lle y mae'n rhaid cyflwyno'r amcangyfrifon erbyn 1 Tachwedd bob blwyddyn ac mae’n rhaid i'r pwyllgor cyfrifol osod yr amcangyfrifon heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd.

Rhaid i Bwyllgor y Llywydd ymgynghori â Gweinidogion Cymru (yn unol â'r Ddeddf). Yn ogystal, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn nodi bod yn rhaid i Bwyllgor y Llywydd ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol. Er nad yw hwn yn ofyniad cyfreithiol, mae'n gyson â'r gweithdrefnau cyfatebol sy'n ymwneud â'r Archwilydd Cyffredinol/Swyddfa Archwilio Cymru a’r Ombwdsmon ac mae’n sicrhau bod y Comisiwn Etholiadol yn ymwybodol o unrhyw newidiadau arfaethedig i’w gyllideb ac yn cael cyfle i wneud sylwadau ar effaith y newidiadau arfaethedig hynny.

Yn unol â Deddf 2000, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor y Llywydd roi sylw i unrhyw adroddiadau a wneir iddo gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac unrhyw argymhellion yn yr adroddiadau hynny, cyn iddo ystyried a gosod amcangyfrifon y Comisiwn Etholiadol.

Cynnig Cyllideb Blynyddol

 

20.26 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)       cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)      cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y'i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)     amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)     amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.24; ac

v)       amcangyfrif y Comisiwn Etholiadol, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 18B.

O dan y trefniant dros dro ni fydd y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. Fodd bynnag, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd templed y Cynnig Cyllideb Blynyddol yn cael ei ddiwygio fel bod gan y Comisiwn Etholiadol gwmpas gwaith ar wahân ond y bydd yn ymddangos o dan 'Gweinidogion Cymru' (nid o dan 'Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol').

 

Os cytunir ar y Rheol Sefydlog arfaethedig, bydd yn sicrhau bod amcangyfrif blynyddol y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gynnwys yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol, er y bydd yn ymddangos o dan ‘Gweinidogion Cymru’, yn hytrach nag o dan ‘Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol’. Os a phryd y cyflwynir deddfwriaeth i ganiatáu i'r Comisiwn Etholiadol gael ei dalu'n uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru, ni fyddai angen newid y Rheol Sefydlog; byddai amcangyfrif blynyddol y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol fel Corff a Ariennir yn Uniongyrchol.

Cynigion Cyllideb Atodol

 

20.34A Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn Etholiadol:

i)     rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif diwygiedig i Bwyllgor y Llywydd yn nodi pam y mae angen amrywio'r gyllideb;

ii)    rhaid i Bwyllgor y Llywydd ystyried adroddiad a’i gyflwyno gerbron y Senedd, o fewn tair wythnos i'r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno, yn cynnwys yr amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw addasiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor:

(a)      ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru ac ystyried unrhyw gyngor a roddwyd iddo ganddynt; a,

(b)      ar ôl rhoi sylw i unrhyw adroddiadau a wnaed iddo gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac unrhyw argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau;

iii)  os yw'r adroddiad yn cynnig unrhyw addasiadau i'r amcangyfrif diwygiedig, rhaid i Bwyllgor y Llywydd fod wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

 

Pan fydd Pwyllgor y Llywydd yn ystyried cynnig cyllideb atodol sy'n cynnig amrywiad i gyllideb y Comisiwn Etholiadol, rhaid nodi’r amserlen ar gyfer gwneud hynny hefyd, er mwyn sicrhau bod amserlen Pwyllgor y Llywydd yn cyd-fynd â'r amserlen ar gyfer ystyried y cynnig cyllideb atodol, ac i sicrhau eglurder a thryloywder y broses.

Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn cyd-fynd â'r rhai ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru (Rheol Sefydlog 20.35) a’r Ombwdsmon (Rheol Sefydlog 20.36).

Os bydd y cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywiad i gyllideb y Comisiwn Etholiadol, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn darparu bod yn rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif diwygiedig i Bwyllgor y Llywydd yn nodi pam y mae angen yr amrywiad i'w gyllideb a bod yn rhaid i Bwyllgor y Llywydd osod adroddiad gerbron y Senedd ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos i gyflwyno'r cynnig cyllideb atodol.

Yn yr un modd ag amcangyfrif blynyddol y Comisiwn etholiadol, mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor y Llywydd roi sylw i unrhyw gyngor a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol ac unrhyw sylwadau a wnaed gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol, ac i egluro unrhyw addasiadau i'r cynnig cyllideb atodol.


 


Atodiad B

Rheol Sefydlog 20.20A newydd

20.20A  Rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o'i incwm a'i wariant y gellir ei briodoli i arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau datganoledig a refferenda datganoledig yng Nghymru, fel sy'n ofynnol o dan baragraff 16A o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, i Bwyllgor y Llywydd o dan Reol Sefydlog 18B.2 cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ond erbyn 1 Hydref fan bellaf.

Rheol Sefydlog 20.20B newydd

20.20B Rhaid i Bwyllgor y Llywydd:

i)     ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymruac ystyried unrhyw gyngor a roddwyd iddo ganddynt, ac;

ii)    ar ôl rhoi sylw i unrhyw adroddiadau a wnaed iddo gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac unrhyw argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau;

ystyried a gosod gerbron y Senedd, heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, adroddiad yn cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor, ar ôl iddo ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.      

Rheol Sefydlog 20.34A newydd

20.34A Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn Etholiadol:

i)     rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif diwygiedig i Bwyllgor y Llywydd yn nodi pam y mae angen amrywio'r gyllideb;

ii)    rhaid i Bwyllgor y Llywydd ystyried adroddiad a’i gyflwyno gerbron y Senedd, o fewn tair wythnos i'r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno, yn cynnwys yr amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw addasiadau sy’n briodol ym marn y Pwyllgor:

(a)      ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru ac ystyried unrhyw gyngor a roddwyd iddo ganddynt; a,

(b)      ar ôl rhoi sylw i unrhyw adroddiadau a wnaed iddo gan y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac unrhyw argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau;

iii)  os yw'r adroddiad yn cynnig unrhyw addasiadau i'r amcangyfrif diwygiedig, rhaid i Bwyllgor y Llywydd fod wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.         

Rheol Sefydlog 20.26 wedi’i diwygio

20.26 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

i)     cyllideb derfynol y llywodraeth;

ii)    cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y'i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

iii)  amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.22;

iv)  amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.24; a

v)    amcangyfrif y Comisiwn Etholiadol, fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 18B.